Cyflenwad, addasrwydd ac ansawdd y llety dros dro sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gartrefu pobl ddigartref a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt;

 

Mae gan Gyngor Caerdydd dros 1,500 o unedau llety dros dro ac â chymorth ar gael i bobl ddigartref. Fel rhan o nodau strategol hirdymor Caerdydd ac yn unol â'n Strategaeth Cymorth Tai 2022-2026, mae cynnydd rhagorol eisoes wedi’i wneud o ran gwella ansawdd y llety. Mae'r ddibyniaeth ar 'ofod llawr' o ansawdd isel ar gyfer llety brys wedi cael ei ddileu a'i ddisodli gan unedau o lety hunangynhwysol o ansawdd uchel i bobl sengl a theuluoedd. Bydd Caerdydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ymhellach. Mae gwaith adnewyddu ar y gweill ar gyfer y ddarpariaeth anghenion cymhleth fawr i bobl sengl ac i ddatblygu llety o ansawdd uchel i deuluoedd.  Gostyngiad mewn cysgu allan a phebyll ar y stryd

Mae Caerdydd yn ymwybodol iawn bod pawb sy'n cyflwyno i wasanaethau digartref yn gwneud hynny gydag anghenion cymorth unigol a phenodol, a dyna pam rydym wedi sicrhau ein bod wedi datblygu llwybrau arbenigol i ddiwallu anghenion pawb yn ein cymuned. Rydym hefyd yn cynnal Asesiadau Anghenion Cymorth Tai pwrpasol gyda'r holl ymgeiswyr ar adeg eu hasesu sy'n rhoi'r fframwaith sydd ei angen i ni o ran darparu llety sy'n addas i anghenion yr unigolyn. Wrth ystyried opsiynau lleoli, mae tri Phorth pwrpasol Caerdydd wedi eu dynodi ar gyfer pobl ifanc, pobl sengl a theuluoedd. Drwy gynnig y llwybrau penodol hyn, sicrheir bod cymorth wedi'i deilwra ar gael i bawb sy'n wynebu digartrefedd gan liniaru ein cydnabyddiaeth ein hunain y gall llety amhriodol, mewn rhai achosion, rwystro cynnydd rhywun tuag at fyw'n annibynnol, yn hytrach na’i wella.

Mae amrywiaeth eang o ddarpariaeth ar gael o fewn y cyflenwad o lety. Mae gennym dros 800 o unedau ar gael i bobl sengl, sy'n cynnwys 12 o hostelau wedi’u staffio sy’n darparu ar gyfer gwahanol anghenion cymorth, 219 o unedau llety â chymorth arbenigol ar ffurf tai a rennir ar draws y gymuned, a chanolfan brysbennu bwrpasol i asesu a chefnogi pobl sengl sydd ag anghenion cymhleth.

I deuluoedd, mae tua 150 o leoedd mewn darpariaethau hostelau, o anghenion cymorth canolig i uchel. O fewn y rhain, mae gofodau sydd hefyd yn gweithredu llety pwrpasol i deuluoedd ifanc a allai fod angen cymorth ychwanegol i fyw'n annibynnol. Ar gyfer teuluoedd ag anghenion cymorth isel, neu sy'n barod i fyw'n annibynnol, rydym yn cynnig mwy na 350 o unedau llety sy'n annibynnol ac yn hunangynhwysol.

Ar gyfer pobl ifanc, cynigir cymysgedd o 102 o leoedd mewn hostelau, 64 o leoedd mewn tai a rennir, a 7 lle mewn llety hunangynhwysol. Mae'r tai a rennir a’r lle mewn hostelau’n cael eu staffio 24 awr y dydd ac yn cynnig lefelau uwch o gefnogaeth. Mae'r tai a rennir yn cynnig trefniant amrywiol o lety i'r rhai a allai ei chael hi’n anoddach byw mewn llety hostel mwy o faint.

Mae'r llety'n cynnwys ystod amrywiol iawn o lwybrau ac anghenion cymorth. O fewn pob un o'r llwybrau hyn, mae'r gefnogaeth yn parhau i fod wedi'i theilwra mewn modd sy'n briodol i'r unigolion sy'n byw ynddynt. Yn y llwybrau cymorth isel er enghraifft, gallai’r cymorth gynnwys paratoi unigolion at denantiaeth, cymorth ymarferol wrth chwilio am lety, cymorth ariannol ar ffurf talu bond a rhent ymlaen llaw, neu wneud y mwyaf o incwm. Ar gyfer y llety cymorth uwch, gall y cymorth fod llawer mwy penodol i'r unigolyn. Mae unedau penodol ar gyfer camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar alcohol, iechyd meddwl, ymddygiad troseddol a Thimau Disgyblu Cymysg y gellir eu defnyddio i ymyrryd mewn achosion lle mae pryderon sylweddol yn cael eu codi ynghylch lles unigolyn.

Er mwyn sicrhau bod llety'n cefnogi aelwydydd tuag at fyw’n annibynnol, mae Caerdydd wedi ymrwymo i'r asesiad parhaus o addasrwydd y llwybrau cymorth sydd ar gael i'r holl ymgeiswyr ac yn ceisio cael gwared ar yr holl lety o ansawdd isel yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithredu cefnogaeth wirioneddol, ymarferol yn ein cymuned drwy gyflwyno cymorth i'r digartref ledled y ddinas.

Er gwaethaf yr holl waith hwn, mae Caerdydd yn dal i bryderu’n sylweddol am ei gallu yn y dyfodol i reoli'r cynnydd parhaus yn y galw am ei gwasanaethau y mae'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae capasiti sylweddol eisoes i ddarparu llety dros dro ac mae 300 o unedau llety wedi'u hagor ers pandemig Covid-19, ond mae'r problemau a wynebir yn enfawr. Yn ogystal â'r darpariaethau llety sydd bellach yn gweithredu ar gapasiti llawn, mae trigolion yn wynebu cyfnodau hirach mewn llety dros dro gan fod llai o opsiynau symud ymlaen ar gael iddyn nhw. O gymharu hyn â'r cyfnod cyn y pandemig, mae aelwydydd o dan ddyletswydd tai llawn bellach yn treulio 26% yn fwy mewn llety dros dro ar gyfartaledd. Mae cyfuniad o ffactorau, megis y cynnydd llethol mewn hysbysiadau Adran 21 sy'n cael eu cyflwyno yn y farchnad rhent preifat (cynnydd o 206% o gymharu â chyn y pandemig yn 2018), yr argyfwng costau byw, prisiau rhentu eiddo uchel, i gyd yn cyfrannu at lif anghyfartal o bobl yn symud i lety dros dro gyda llai yn symud allan.

Mae'r llif anghyfartal hwn bellach wedi arwain at gynllunio 117 o leoliadau ar gyfer teuluoedd sy'n symud i lety dros dro, cynnydd o 154% ar y flwyddyn ariannol hon a 500% ers mis Gorffennaf diwethaf. Mae’r lleoliadau a gynlluniwyd yn cynnwys gorchmynion adennill meddiant, gwarantau a gorchmynion teuluol sydd ar ddod a fydd angen llety dros y misoedd nesaf. Yn syml, mae'r galw bellach yn cyfateb i tua 53 o deuluoedd yn cael eu cyfeirio am lety dros dro bob mis gyda tua 42 yn symud ymlaen. Mae hyn yn golygu bod teuluoedd ond yn cael eu lleoli yng nghyfnod gwarant olaf y cylch digartrefedd. Mae hyn yn creu straen sylweddol ar deuluoedd sydd eisoes dan straen eithriadol dros feddwl am fod yn ddigartref.

Yr effaith y mae byw mewn llety dros dro yn ei chael ar unigolion a theuluoedd

Mae Cyngor Caerdydd yn ymwybodol y gall byw mewn llety dros dro gael effaith sylweddol ar unigolion a theuluoedd, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei waethygu gan y cynnydd yn y galw am lety dros dro. Mae’n hysbys bod llety dros dro yn cael effaith negyddol ac ansefydlog ar fywydau'r rhai sydd ei angen, gan ddileu annibyniaeth rhai unigolion ac yn aml yn tynnu pobl oddi wrth eu rhwydweithiau cefnogol megis ffrindiau, teulu, gwasanaethau iechyd neu addysg. Er bod Caerdydd bob amser wedi ymdrechu i weithio gydag aelwydydd i gynnal y rhwydweithiau hyn, nid yw hyn bob amser yn ymarferol, ac yn anffodus mae'r ffactorau dad-sefydlogi hyn i'w gweld ym mywydau preswylwyr.

Mae'r effaith negyddol hon yn cael ei theimlo ar hyn o bryd yn arbennig gan fod y cyflenwad llety sydd ar gael yn crebachu oherwydd y niferoedd uwch o bobl sy'n ei ddefnyddio. Mewn termau real, mae'r argaeledd is hwn o lety yn golygu bod llai o lety ar gael mewn ardaloedd yng Nghaerdydd a allai helpu i liniaru colli rhwydweithiau cymorth unigolyn. Yn sgil y galw cynyddol a chyfyngiadau dilynol o ran cyflenwad, rydym bellach yn defnyddio gwestai i ddarparu ar gyfer teuluoedd sy'n wynebu digartrefedd. Nid ydym yn gyfforddus â’r sefyllfa hon. Mae Caerdydd wastad wedi gallu darparu llety brys i'w thrigolion pan fo angen, ac mae'n cydnabod bod yr effaith negyddol ar y rhai sy'n byw mewn llety dros dro wastad yn mynd i fod yn waeth fyth i aelwydydd sy'n byw mewn gwestai. Mae llety gwestai yn methu â chynnig y diogelwch a'r sefydlogrwydd y mae teuluoedd eu hangen i ddychwelyd i fyw'n annibynnol, gan eu gwneud yn unig a rhoi straen sylweddol ychwanegol arnynt. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar deuluoedd â phlant ifanc a fydd yn anochel yn ei chael hi’n anodd addasu i newid o'r fath mewn amgylchedd a'r mynediad mwy cyfyngedig i gyfleusterau.

Mae Caerdydd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r effaith hon ac ymdrechu i symud pob cartref yn ôl i lety mwy addas mor gyflym â phosibl. Wrth symud ymlaen, rydym wrthi'n gweithio ar gynigion ar gyfer cynyddu argaeledd ein cyflenwad llety yn y dyfodol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i osgoi effeithiau mwy negyddol digartrefedd ac osgoi defnyddio llety ar ffurf gwestai. Cynyddodd llety dros dro i deuluoedd drwy gydol y pandemig, ond nawr mae angen cynllunio ar gyfer y dyfodol i fynd i'r afael â'r galw cynyddol newydd. Er mwyn gwneud hyn mae'r Cyngor yn adolygu mannau presennol yn y ddinas ac yn defnyddio adeiladau modiwlar tra bod datblygiadau mwy hirdymor yn cael eu prosesu. Mae enghreifftiau yma'n cynnwys mannau ychwanegol yn ne'r ddinas a fyddai'n gweld 172 o unedau ychwanegol. Mae llety pellach gydag hen safle ysbyty Lansdown hefyd yn cael ei ddatblygu ac mae gan y Cyngor wrthi’n datblygu sawl safle ar draws y ddinas fydd yn darparu mwy o gartrefi i gymunedau yn y blynyddoedd nesaf.

Mae Caerdydd hefyd yn gweithio'n galed ar liniaru effaith byw mewn llety dros dro i bob cartref yn gyffredinol drwy wella ansawdd a chynnig ei stoc o lety. Ers dechrau'r pandemig, mae Caerdydd wedi agor nifer sylweddol o unedau llety ac mae'r rhain i gyd wedi cadw’r ethos lleihau niwed mewn golwg, gan gynnig llety hunangynhwysol o safon uchel gyda mynediad llawn i'r cyfleusterau lle bo modd. Rydym yn sicrhau bod y gwasanaethau cymorth priodol ar gael i bob unigolyn sy'n cael defnyddio ein llety, gan wneud yn siŵr fod pawb yn cael mynediad i'r gefnogaeth sydd ei hangen i'w helpu i fyw'n annibynnol yn y dyfodol. Mewn un enghraifft o hyn, gallwn dynnu sylw at y llwyddiant cadarnhaol yn ein llwybrau symud ymlaen pwrpasol megis ein Hyfforddiant Tenantiaeth i bobl ifanc, sydd wedi cyflawni cyfradd cynnal tenantiaeth hynod lwyddiannus o 99%.

Mae darparu'r llwybrau pwrpasol hyn ar gyfer symud ymlaen yn hanfodol yn ein gallu i helpu teuluoedd i fyw'n annibynnol ac i ategu hyn, mae Caerdydd yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn hyblyg yn ein blaenoriaethau wrth ddyrannu llety, gan gynyddu'r ganran o leoliadau sy'n mynd i aelwydydd digartref a sicrhau nad yw unrhyw gartref yn byw mewn llety dros dro yn hirach nag y mae'n rhaid iddo.

Effaith y galw parhaus am lety dros dro a gwasanaethau cymorth ar awdurdodau lleol, eu partneriaid a chymunedau

Mae'r galw parhaus am wasanaethau llety a chymorth yn cael ei deimlo gan yr holl randdeiliaid sy'n ymwneud â darparu ein gwasanaethau. Yn dilyn y sioc cychwynnol o ran y galw a welwyd yn sgil y Pandemig, roedd llawer o staff a darparwyr yn credu y byddai'r effaith hon yn un dros dro ac y byddai’r gwasanaeth yn dychwelyd i’r ‘normal’ yn fuan. Er gwaethaf hynny, ni wnaeth y galw am wasanaethau llety ostwng ar ôl y Pandemig ac i'r gwrthwyneb, rydym nawr yn gweld mwy o alw mewn llawer feysydd y gwasanaeth. Gweler yr effaith hon, yn arbennig, yn y nifer gynyddol o ddigartrefedd rheng flaen. Rhagamcanir ar hyn o bryd y bydd yn cynyddu mwy na 10% o gymharu â'r llynedd ac mae’r niferoedd bellach wedi codi yn olynol ers 2020/21. Oherwydd y cynnydd hwn mewn galw, mae nifer y teuluoedd mewn llety dros dro wedi codi 27% ers mis Ebrill 2021 ac mae ein rhestr o leoliadau a gynlluniwyd ar draws pob math o aelwydydd yn ystod yr amser hwn wedi cynyddu o 63 i 332 (426%).

Mae hyn i gyd yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau Caerdydd, sydd eisoes dan bwysau aruthrol.

Mae hefyd yn destun pryder penodol y bydd y galw parhaus hwn ar ein staff a'n partneriaid yn arwain at orflinder i'r unigolion dan sylw. Oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cyflwyno’n ddigartref a diffyg tai, mae angen i staff wneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch lleoliadau, yn aml yn gorfod dewis y lleoliad mwyaf addas neu benderfynu ar ba deulu allan o lawer sydd angen eu lleoli ar frys. Gall y penderfyniadau hyn fod yn emosiynol anodd iawn i staff sy'n gweithredu mewn amgylchiadau anodd. Mae'r ffactorau hyn bellach yn arwain at gynnydd mewn cwynion ac ymholiadau gan aelodau gan nad ydym yn gallu lleoli pobl mewn llety mor gynnar ag yr hoffem.

Yn y tymor hir, yr ofn yw y gallai hyn effeithio ar gadw staff yn y sector Tai ac arwain at ansawdd is o wasanaeth yn gyffredinol. Mae'n bosibl ein bod eisoes yn gweld yr effaith ar gadw staff, ac mae recriwtio i’r sector yn anodd iawn ers dod allan o'r pandemig Covid-19. 

Mae effaith y cynnydd parhaus hwn yn y galw yn teimlo'n eang. Fel awdurdod, rydym yn gweld llwythi gwaith uwch ar gyfer swyddogion tai rheng flaen, tîm llety dros dro sy'n delio â niferoedd uwch i’w lleoli, a thîm dyraniadau sy'n ceisio cydbwyso anawsterau cyson rhestr aros o dros 8000 o ymgeiswyr. Rydym hefyd yn sylwi nad yw'r effaith hon wedi’i chyfyngu i'n gwasanaethau digartrefedd rheng flaen traddodiadol yn unig, ac mae sgil-effaith y galw cynyddol yn treiddio drwodd i lawer o wasanaethau eraill sy'n helpu i ysgwyddo baich y gwaith cynyddol er mwyn parhau i gyflawni gwasanaeth sy’n gweddu i uchelgeisiau Caerdydd.

Opsiynau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr a'r tymor canolig er mwyn lleihau'r defnydd o lety dros dro;

Yn y tymor byr, mae dod o hyd i ffyrdd o gynyddu mynediad yn y sector rhentu preifat yn hollbwysig i leihau'r defnydd o lety dros dro yng Nghaerdydd. Fel rhan o'r ymdrech hon, mae Caerdydd wedi ail-frandio a lansio ei dîm newydd yn y Sector Rhentu Preifat, LLETY a fydd, gobeithio, yn annog landlordiaid i weithio'n agosach gyda'r Awdurdod i lenwi eu cartrefi gwag. Fel rhan o'r fenter hon, mae Caerdydd hefyd wrthi'n ceisio sicrhau landlordiaid drwy gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru. Mae wedi sicrhau 22 o dai yn barod ac yn gobeithio sicrhau 10 yn rhagor erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Er hyn, mae'r rhwystrau sy'n ein hwynebu yn y sector rhentu preifat yn sylweddol. Er bod gan Gaerdydd farchnad rhent preifat fawr, mae'n wynebu diffygion sylweddol rhwng prisiau eiddo a lwfansau tai lleol, gyda'n hasesiad diweddaraf yn dangos diffyg cyfartalog o dros £400 ar draws pob math o eiddo. Ochr yn ochr â'r broblem hon, mae Caerdydd yn wynebu nifer digynsail o landlordiaid sy'n cyflwyno gorchmynion di-fai i gleientiaid yn y sector, gyda chynnydd o 206% mewn Gorchmynion Adran 21 a 316% yn nifer y landlordiaid sy’n nodi mai gwerthu eiddo yw’r rheswm dros gyflwyno’r gorchmynion hyn. Mae'r wybodaeth hon yn cyd-fynd ag arolwg a gwblhawyd gennym mewn fforwm landlordiaid diweddar lle cynghorodd 40% o landlordiaid eu bod wedi gwerthu eiddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a 63% yn cynghori eu bod yn ystyried gwerthu eiddo. Ymhlith y prif resymau a nodwyd gan landlordiaid dros adael y farchnad roedd mwy o ddeddfwriaeth, gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi a llai o broffidioldeb.

Rydym yn gwybod bod atal yn well na'r iachâd, felly rydym wrthi'n gweithio ar gyflwyno ein gwasanaethau Atal ledled y ddinas i helpu i sicrhau bod y rhai sydd ag angen tai yn gallu cael y cymorth sydd ei angen ar frys ar gam ymyrraeth gynnar. Ein gobaith yw y gall y ffocws cynyddol ar atal, ochr yn ochr â'n tîm rhentu preifat ymroddedig helpu i fynd i’r afael â’n hanghenion tai yn y tymor byr. Mae'r gronfa atal digartrefedd wedi bod yn hanfodol i gefnogi gwaith y tîm atal. Mae ei hyblygrwydd o ran defnydd wedi bod yn union beth sydd ei angen a dyma fydd ei angen yn y dyfodol os ydyn ni'n mynd i atal llawer mwy o ddinasyddion rhag dod yn ddigartref ar raddfa. Ar ben hyn mae'r Cynllun Costau Byw yn ôl Disgresiwn hefyd wedi bod yn hanfodol i gefnogi trigolion mwyaf anghenus â materion ariannol eraill, sydd ochr yn ochr â’r Taliad Tai yn ôl Disgresiwn, wedi cael effaith sylweddol ar gefnogi'r rhai mewn trafferthion ariannol, ac felly eu hatal rhag bod yn ddigartref. Yn olaf, i liniaru’r pwysau ar dai tymor byr ymhellach, rydym wedi cynyddu ein dyraniad o dai cymdeithasol yn sylweddol i ymgeiswyr digartref a threialu ffyrdd newydd y gallwn flaenoriaethu ceisiadau digartref ymhellach i leddfu'r galw ar wasanaethau digartrefedd.

Mae'n bwysig cydnabod, hyd yn oed gyda'r camau hyn ar waith, bod Caerdydd yn dal i wynebu galw digynsail ar lety dros dro a’i bod yn ymwybodol ar hyn o bryd o 332 o aelwydydd fydd angen llety brys yn ystod y misoedd nesaf. Er mwyn datrys ein hanghenion yn y tymor canolig, mae'r Awdurdod wrthi'n ceisio sicrhau llety ar drefniant prynu’n ôl ac mae wedi sicrhau 25 eiddo hyd yma yn 2022. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes modd cyfiawnhau tai gwag mewn cyfnod pan mae llety mor brin, ac mae gan Gaerdydd tua 1233 o dai gwag yn y ddinas. Rydym eisoes wedi datblygu Polisi Cartrefi Gwag 2021- 2024, er mwyn mynd i'r afael â’r problem o dai gwag a gweithio i ddychwelyd yr eiddo hyn i ddefnydd eto. Ochr yn ochr â'r polisi hwn, mae cymhellion ychwanegol yn cael eu cynnig i landlordiaid sy'n barod i gynnig eu cartrefi i gynllun prydlesu Llywodraeth Cymru os ydynt wedi cael eu cydnabod yn eiddo gwag yn y gorffennol.

Yn olaf, mae Caerdydd yn canolbwyntio ar atebion hirdymor ac ar hyn o bryd mae'n ymwneud â rhaglen adeiladu uchelgeisiol sy'n gobeithio darparu bron i 4000 o gartrefi yn y ddinas (y byddai 2800 ohonynt yn fforddiadwy), ochr yn ochr â'n cynigion ar gyfer "blociau wedi'u rheoli" a fydd yn helpu i ddarparu llety symud ymlaen parhaol i unigolion y gallai eu hanghenion cymorth fod wedi’u hystyried yn rhy uchel i fod wedi byw yn annibynnol o'r blaen.

Er y bydd hyn yn rhoi llawer o ryddhad i'n gwasanaethau, mae'n hanfodol atgyfnerthu'r anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu yn y tymor byr a chanolig fel yr ymdrinnir uchod.

 

Y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026, ac yn arbennig y symudiad tuag at ddull ailgartrefu cyflym.

Mae Caerdydd yn gwbl ymrwymedig wrth symud tuag at y camau a nodwyd yng nghynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026 a gweithredu dull ailgartrefu cyflym, ond rydym yn cydnabod bod y rhwystrau wrth gymryd rhai o'r camau hyn yn teimlo'n anorchfygol ar hyn o bryd. Y pryder penodol yw ein gallu i atal nifer y bobl sy'n dod i lety tra'n cynyddu llif yr unigolion sy’n symud allan mewn marchnad rhent breifat mor heriol. Heb y rhyddhad hwn, ni allwn weld ffordd y gallwn leihau ein dibyniaeth ar lety dros dro yn y ddinas yn y tymor byr gan hefyd sicrhau diogelwch ein trigolion sy'n wynebu digartrefedd.

Mae gwaith da eisoes wedi'i gwblhau fodd bynnag wrth wneud digartrefedd yn ddigwyddiad prinnach ac rydym eisoes yn y broses o gryfhau ein gwasanaethau cymorth tai a chyflwyno'r rhain yn raddol ledled y ddinas er mwyn atal digartrefedd lle bynnag y bo modd. Ers diwedd mis Medi 2022, mae'r Tîm Atebion Tai ac Atal wedi uno i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i'r rhai sydd dan fygythiad neu sy'n wynebu digartrefedd.  Mae uno’r ddau dîm wedi lleihau dyblygu gwaith ac yn darparu taith fwy di-dor i gwsmeriaid. Mae gwaith yn mynd rhagddo i weithredu gweithdrefnau newydd i sicrhau bod gan gwsmeriaid fynediad hawdd at y cyllid atal, er mwyn helpu i'w cadw yn eu cartrefi eu hunain. Crëwyd dwy swydd swyddog atal newydd i gefnogi'r rheiny ag ôl-ddyledion rhent yn unig. Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn sicrhau cysylltiad rhagorol â chymorth ehangach megis Cyngor Ariannol, y Llinell Gyngor, Llinell Gymorth Tai a thimau Cyngor i Mewn i Waith. Bydd y dull personol, dinas gyfan hwn yn allweddol i'n llwyddiant drwy ddarparu mynediad digyfaddawd i'r gwasanaethau sydd gennym i'w cynnig i atal digartrefedd.

Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio'n bennaf ar atal digartrefedd, rydym yn dal i wynebu mwy o alw ac oherwydd diffyg opsiynau symud ymlaen, mae ein cyflenwad llety dros dro yn wynebu anhawster eithriadol, yn enwedig yn y tymor byr. Heb ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhwystrau yn y sector rhentu preifat, mae'n anodd gweld sut y gallwn wneud yr achosion presennol o ddigartrefedd, a’r mynediad dilynol i lety dros dro, yn llawer prinnach neu fyrrach. Mae'r Awdurdod yn parhau i ymgysylltu â landlordiaid preifat ac yn chwilio'n gyson am ffyrdd newydd o wella ein cynnig i’w cymell i’n defnyddio i helpu i lenwi eu cartrefi, ond mae hyn yn ymddangos yn anodd ei gyflawni heb fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi landlordiaid i adael y farchnad, neu'r bwlch sylweddol rhwng lwfansau tai a rhent.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o adolygu sut mae ein llety yn gweddu orau i'r targedau fel y'u pennwyd yn y canllawiau ailgartrefu cyflym. O'r herwydd, rydym yn ceisio gwella ansawdd ein stoc o lety yn gyson a sicrhau bod unrhyw uned newydd o lety yn cyd-fynd yn agosach â'r safonau hunangynhwysol fel y dymunir yn unol â’r cynllun. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddileu'n raddol unrhyw fath o lety o ansawdd isel a lleihau nifer y 'camau' yn y cylch ailgartrefu, gan gael gwared ar yr holl gamau nad ydynt yn hanfodol yn y broses hon a symud unigolion i lety sefydlog ar yr amser cynharaf posibl. Ochr yn ochr â'r gwelliannau hyn, rydym wedi adolygu ein polisïau dyrannu presennol i geisio wella pa mor gyflym y gellir cynnig llety parhaol i rywun yn annibynnol ar y sector rhentu preifat. Mewn rhai enghreifftiau o hyn, rydym wedi cynyddu ein polisi dyrannu i ddigartrefedd, wedi treialu ffyrdd newydd y gallwn gyflymu ein cynnig dyrannu i ddigartrefedd, ac agor math newydd o "flociau wedi'u rheoli" sydd wedi darparu opsiynau symud ymlaen sefydlog ychwanegol i unigolion sy'n wynebu digartrefedd a allai fod ag anghenion uwch na'r rhai sydd fel arfer yn symud i lety sefydlog.

Yn olaf, i gydnabod nodau'r cynllun gweithredu lefel uchel, rydym wedi cael llwyddiant da wrth fabwysiadu gwasanaethau allgymorth pendant. Ers dechrau'r pandemig a’r ymgyrch "everyone in", mae nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd wedi gostwng yn sylweddol, o tua 80 i gyfartaledd o 12 erbyn mis Ebrill 2021. Rydym yn hynod falch o'r cyflawniad hwn ac yn parhau i fuddsoddi adnoddau yn ein harferion Allgymorth i ymgysylltu â phawb sy'n cysgu ar y stryd ac yn eu hannog i lety ar y cyfle cyntaf.